Mae ymgyrchwyr PAWB a CADNO wedi dweud bod angen “ailfeddwl o ddifri” cynlluniau fel atomfa niwclear Wylfa B ger Cemaes yn Ynys Môn yn sgil pandemig y coronafeirws.

Dyw “elw i gwmnïau enfawr o’r tu allan tra’n peryglu iechyd ein pobl” ddim yn flaenoriaeth, meddai’r mudiadau gwrth-niwclear.

Daw sylwadau PAWB a CADNO ar ôl iddyn nhw gael ar ddeall fod y gwaith ar atomfa Hinkley-C yng Ngwlad yr Haf yn dal i fynd yn ei flaen heb waharddiad gan Lywodraeth San Steffan.  Mae tua 2,000 o weithwyr yn dal ar y safle.

“Popty i’r haint”

“Gweithwyr mudol yw sawl un o’r rhain, a felly mae’n berygl i’r safle fod yn bopty i’r haint.  Mae’n amhosibl gwarantu fod trefniadau cwmni EDF am dawelu pryderon y gweithwyr a’r boblogaeth leol,” meddai Dylan Morgan o’r mudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa B).

Y gofid yw petai gwaith o’r fath yn dal i ddigwydd yn Wylfa B byddai’n amhosib cadw’r gweithwyr 2 fedr ar wahân yn gyson, fel sy’n cael ei argymell gan y Llywodraeth.

“Yn sicr, bydd ein hysbytai lleol a’r holl wasanaethau sy’n ein cefnogi fel dinasyddion yn falch nad oes ddim rhaid iddyn nhw ddelio ef problem o’r fath.  Ond gallai Wylfa B fod yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd gyda miloedd o weithwyr yn ardal Cemaes heblaw fod Hitachi wedi cael traed oer.

“Gofynnwn i’n cynrychiolwyr etholedig ni yng ngogledd Cymru – llawer ohonynt yn gefnogwyr Wylfa B a Trawsfynydd hyd yn hyn – i ystyried o ddifri oblygiadau pellgyrhaeddol cael safleoedd adeiladu enfawr yn ein hardaloedd.”

“Ailfeddwl”

Ychwanegodd Dylan Morgan: “Mae natur yr argyfwng hwn yn ein gorfodi i ailfeddwl o ddifri beth ydi’r pethau pwysicaf i gynnal ein pobl,” meddai datganiad gan PAWB a CADNO.

“Dydi elw i gwmnïau enfawr o’r tu allan tra’n peryglu iechyd ein pobl ddim yn un ohonyn nhw.  P’run ai ydi’r perygl sydd, gobeithio, dros dro gan haint fel Covid-19, neu yn berygl oherwydd yr ymbelydredd a gynhyrchir gan y diwydiant niwclear – sy’n para am ganrifoedd.”