Mae’r llun yma gan Rhydian Darcy yn dangos Stryd y Frenhines yng Nghaerdydd, a fyddai fel arfer yn brysur dros y penwythnos.

Ond fe fydd y darlun hwn yn un cyffredin ar hyd a lled Cymru, gwledydd Prydain a thu hwnt dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod, yn sgil y mesurau llym sydd wedi’u cyflwyno ar draws y byd yn sgil y coronafeirws.

Yng ngwledydd Prydain, mae’r prif weinidog Boris Johnson yn gorchymyn pobol i fynd i siopa “cyn lleied â phosib” a dim ond ar gyfer “nwyddau hanfodol”.

Y rhai sydd wedi’u heithrio o’r gorchymyn i gau eu drysau yw gwerthwyr bwyd, fferyllfeydd, siop fach y gornel, gorsafoedd petrol, siopau mewn ysbytai, swyddfa’r post, banciau, siopau sy’n gwerthu papurau newydd, golchdai a siopau bwyd anifeiliaid.

Yr wythnos hon, ceisiodd cwmni Sports Direct ddadlau eu bod nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth hanfodol, ond fe fu’n rhaid iddyn nhw hefyd gau eu drysau.