Mae deg yn rhagor o bobol wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru.
48 yw’r cyfanswm erbyn hyn, yn ôl ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n debygol o fod yn anghyflawn oherwydd y ffordd anghyson mae achosion yn cael eu cofnodi.
Mae 1,241 o achosion bellach wedi’u cadarnhau yng Nghymru, a 148 o achosion newydd dros y 24 awr diwethaf.
Dydy Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim wedi cyhoeddi manylion y rhai fu farw.
Ble mae’r achosion?
Yn ôl ffigurau sydd wedi’u casglu, fe fu:
- 514 o achosion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- 282 yng Nghaerdydd a’r Fro
- 125 yn ardal Bae Abertawe
- 124 yng Nghwm Taf
- 75 yn Hywel Dda
- 69 yn Betsi Cadwaladr; a
- 20 ym Mhowys