Mae pobol sydd wedi bod yn aros yn Waunfawr ers rêf yr wythnos ddiwethaf yn “fygythiad tawel” i drigolion y pentref yn sgil y coronafeirws, yn ôl y Cynghorydd Edgar Owen.

Cafodd rêf ei chynnal nos Sul ddiwethaf, ac fe fu rhai unigolion yn gwersylla yn y pentref ers hynny ac yn ôl rhai, maen nhw wedi bod yn manteisio ar gyfleusterau’r pentref tra eu bod nhw yno.

Wrth siarad â golwg360, dywed Edgar Owen fod yr heddlu wedi bod yn y pentref ond eu bod nhw, ran fwya’r wythnos, heb rym i orfodi pobol i symud oddi yno.

“Mae ’na cattle grid ac mae ’na arwydd yn deud wrth bobol am beidio â mynd dros y cattle grid, ond maen nhw yr ochr arall iddo fo.

“Y cyfan ydan ni’n wybod ydi pwy sy’ biau’r tir.

“Maen nhw wedi cau’r carafanau a bob dim ar hyd gogledd Cymru, a dwi’m yn meddwl bo ni isio rhai newydd yn dechrau chwaith.”

‘Dan ni ddim yn gwybod pwy ydan nhw’

Er nad yw Edgar Owen yn credu eu bod nhw’n peri bygythiad uniongyrchol i bobol yn y pentref, mae sefyllfa’r coronafeirws yn golygu eu bod nhw’n “fygythiad tawel”.

“Y gonsyrn ydi, ydi o’n fygythiad [eu bod nhw yno]?

“Ydi, yn dawel, oherwydd ’dan ni ddim yn gwybod pwy ydan nhw nac o le maen nhw wedi dŵad.

“Dyna ydi’r drwg, ac mae pobol y pentre’ yn anesmwyth. Dydan nhw ddim yn direct threat, ond dyna sy’ tu ôl i feddyliau pawb.

“Maen nhw wedi cau caravan sites ond dwi’m yn gwybod be’ ydi’r ateb.”

‘Mae gwir angen y ddeddfwriaeth’

Yn ôl Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, mae’r ddeddfwriaeth sydd newydd ddod i rym yn rhoi’r hawl i’r heddlu orfodi pobol i symud i’w chroesawu.

Ond fe ddaeth yn rhy hwyr i allu symud y bobol o Waunfawr ar unwaith, meddai wrth golwg360.

“Y broblem efo symud rheiny oedd fod y ddeddfwriaeth heb ddod i mewn yr adeg hynny, felly roedd hi’n anodd gneud dim byd heblaw gofyn iddyn nhw a ’tasen nhw’n gwrthod, doeddan ni ddim yn gallu’u gorfodi nhw, ond rŵan mae ’na ddeddfwriaeth yn ei lle, mae’n gneud bywyd yn hawsach i orfodi’r bobol yma sy’n anwybyddu rhybuddion i symud.

“Mae gwir angen y ddeddfwriaeth, er faswn i’n disgwyl i bobol ymddwyn yn gyfrifol a gneud pethau sy’n synnwyr cyffredin, ond yn amlwg, mae ’na lot o bobol sy’ ddim yn gneud hynna, felly yr unig ffordd i ddiogelu pobol rhag y feirws yma ydi deddfu i wahardd nhw rhag gneud pethau sy’ ddim yn rhoi nhw eu hunain mewn peryg yn unig, ond pobol eraill hefyd.”