Mae Gŵyl Ynysu yn cael ei chynnal heddiw ar dudalen Facebook cylchgrawn Y Selar.

Mae’n cael ei disgrifio fel “gŵyl gerddoriaeth rithiol”, ac mae amryw o artistiaid yn perfformio yn ystod y dydd ar eu tudalennau eu hunain, a’r Selar yn ffrydio’r cyfan ar eu tudalen nhw.

Ac mae’r trefnwyr yn annog y gynulleidfa i gymryd rhan.

“Bydd cyfle i chi ryngweithio, gadael sylwadau, rhoi gair o gefnogaeth a chynnig cyfraniad ariannol bach i’r artistiaid yn y cyfnod ansicr yma,” meddai’r trefnwyr.

“Dewch ynghyd i roi cefnogaeth i artistiaid Cymraeg, ac i’n gilydd, wrth i ni ynysu.”

Gŵyl Ynysu

Y lein-yp

Dechreuodd yr ŵyl am 11 fore heddiw (dydd Sul, Mawrth 29) ac fe fydd yn dod i ben am 11 o’r gloch heno.

Bydd pob set yn dechrau ar yr awr, ac yn para tua hanner awr yr un.

Y Cledrau agorodd yr ŵyl cyn i Sera a Gwen Màiri berfformio.

Dyma weddill y lein-yp:

14:00 – Roughion (set DJ)

15:00 – Ynys (set ar y cyd â Gorwelion)

16:00 – She’s Got Spies

17:00 – Al Lewis

18:00 – Elis Derby

19:00 – Dienw

20:00 – Dafydd Hedd

21:00 – Bwca

22:00 – Tegid Rhys

23:00 – Ifan Pritchard / Gwilym (set ar y cyd â Gorwelion)