Mae’r llun yma gan Christian Proctor yn dangos effaith mesurau llym Llywodraeth Prydain yn sgil y coronafeirws ar draffordd yr M4 yng Nghymru.

Mae llywodraeth Boris Johnson yn San Steffan yn gorchymyn na ddylai neb deithio oni bai bod rhaid.

Mae’n rhan o gyfres o fesurau sydd wedi’u cyflwyno er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r feirws sydd wedi lledu ar draws y byd.

Ond mae prif weinidog Prydain yn rhybuddio y gall fod angen cyflwyno mesurau llymach eto wrth i bobol anwybyddu’r gorchymyn i aros yn eu cartrefi.