Does gan yr heddlu ddim esboniad am farwolaeth dyn 44 oed y cafwyd hyd i’w gorff yng Nghaerdydd fore Mercher (Mawrth 25).

Cawson nhw eu galw i Heol Clare toc cyn 9yb, ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff Paul O’Brien.

Mae’r heddlu’n ceisio cael darlun o’i symudiadau yn y dyddiau cyn hynny, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cadw meddwl agored.

Ond maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd wedi bod mewn cyswllt â fe cyn iddo fe farw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.