Fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddim yn cael ei chynnal eleni oherwydd y coronafeirws.

Mewn datganiad yn cyhoeddi’r penderfyniad, mae’r trefnwyr wedi ymddiheuro i’r rheiny a fydd yn cael eu heffeithio, ac maen nhw wedi ymrwymo i’w cefnogi.

“Rydym yn cychwyn ar gyfnod o ansicrwydd digynsail,” meddai’r trefnwyr.

“Yr un peth y mae eleni wedi’i ddysgu i ni yw pa mor ansefydlog y gall ansicrwydd fod, ansicrwydd ynghylch ein diogelwch, ein hiechyd a’n diogelwch ariannol.

“Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein hartistiaid, ein staff a’n cymuned.”

Gohirio

Byddai’r eisteddfod wedi cael ei chynnal ym mis Gorffennaf, a bellach mae disgwyl i’r 74ain eisteddfod gael ei chynnal flwyddyn nesa’.

Mae’r ŵyl gerddorol yn cael ei chynnal yn Llangollen bob blwyddyn, mae’n denu perfformwyr o 50 gwlad, ac mae’n denu cynulleidfaoedd o dros 50,000.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau (Mawrth 26) bod 28 o bobol wedi marw o’r coronafeirws, a bod 741 achos wedi’u cadarnhau.