Mae meddyg teulu yn y gogledd orllewin wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod ei staff wrthi yn paratoi i ofalu am gleifion coronafeirws yn y gymuned, os bydd Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn llawn.

Yn ôl y Dr Eilir Hughes, sy’n feddyg teulu yn Nefyn ac yn arweinydd Meddygon Dwyfor, mae angen cynllunio o ddifrif.

“Dw i’n rhoi’r staff a’r timau pen yma ar waith i baratoi at beth rydyn ni’n ei weld y senario waethaf posib. Hynny yw, bydd y niferoedd o bobol wael oherwydd y feirws yma yn gorlifo allan o gapasiti Ysbyty Gwynedd. Felly bydd rhaid agor unedau i ofalu am bobol 24 awr allan yn y gymuned…

“Rydym yn sôn am ofal lliniarol, am ofal meddygol ac rydyn yn sôn hefyd am adferiad.”

Mwy gan Dr Eilir Hughes am yr her o wasanaethu cleifion yng nghefn gwlad, yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg