Mae’r meddyg sydd wedi creu peiriant anadlu allai achub bywydau “cannoedd” o gleifion sy’n diodde’ o’r coronafeirws, wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod y ddyfais yn brawf bod Cymru Annibynnol yn bosib.

Ddydd Gwener diwethaf fe ddatgelodd golwg360 bod Dr Rhys Thomas o Landeilo wedi bod yn gweithio ar beiriant sy’n pwmpio ocsijen ychwanegol i waed dioddefwyr Covid-19.

Coronafeirws: doctor o Gymru yn dyfeisio peiriant anadlu

Ar y nos Sadwrn canlynol fe gafodd y peiriant ei brofi am y tro cyntaf yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli, ac fe lwyddodd i wella’r claf gymaint fel nad oedd yn rhaid iddo fynd i’r uned gofal dwys.

Mae peiriant anadlu Dr Rhys Thomas wedi ei gynllunio ar gyfer gwella symptomau cleifion cyn iddyn nhw fynd yn waeth a gorfod mynd i’r uned gofal dwys.

Felly mae gan y peiriant y potensial i leihau llwyth gwaith unedau gofal dwys ysbytai Cymru yn sylweddol.

Y gobaith yw creu 100 o’r peiriannau anadlu’r dydd, a dechrau’r wythnos roedd 80 o’r peiriannau ar eu ffordd i’r pedwar ysbyty sydd â’r nifer fwyaf o ddioddefwyr Covid-19.

Roedd y peiriannau hyn am gael eu defnyddio ar gleifion yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Llanelli i weld a ydyn nhw yn cael yr un budd o’r ddyfais ag a gafodd y claf cyntaf yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli nos Sadwrn diwethaf.

“Pwysig i Gymru”

Mae Dr Rhys Thomas yn grediniol bod creu’r peiriant brawf bod modd i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun.

“Dw i’n teimlo fod hwn mor bwysig i Gymru hefyd, achos so ni byth yn tynnu ein hunain lan yng Nghymru.

“Ond mae shwt gymaint o dalent gyda ni fan hyn, yn lleol.

“Sdim eisiau i ni gael help oddi wrth America neu China. Ni gyd yn gallu gwneud hyn ein hunain.

“Gallen ni byth fod wedi gwneud hyn yn dibynnu ar America neu China neu hyd yn oed Lloegr.

“Rydym ni wedi penderfynu ei wneud e’, ac ryden ni yn gallu ei wneud e’ o Rydaman.

“Ac os ydym ni yn gallu gwneud y peiriannau yma yn Rhydaman, ryden ni yn gallu eu gwneud nhw unrhyw le.”

Mae yn grediniol bod angen i Gymru gael hunanreolaeth.

“Achos ein bod ni yn llai o seis, mae yn rhaid i ni fod yn annibynnol,” meddai.

“Mae economi ni mor wahanol i unrhyw un arall, a dim ond ni sydd yn gwybod fel mae’r wlad hyn yn gweithio.

“Hefyd, dim ond ni sydd eisiau gwneud yn siŵr bod y wlad hon yn gwneud y gorau y gall hi.”

Mwy gan Dr Rhys Thomas yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg