Mae wedi dod i’r amlwg bod cyfanswm o dri antelop wedi ffoi o’u llociau mewn sŵ yng Ngheredigion yr wythnos hon.

Mae pob un o’r creaduriaid bellach wedi’u dal, ond yn wreiddiol roedd adroddiadau mai dim ond dau ohonyn nhw oedd wedi mynd ar ffo.

“Diweddariad brys! Mae dau o’n lechwe (antelopiaid Affricanaidd) wedi ffoi,” meddai Borth Wild Animal Kingdom ar eu cyfrif Facebook tua chanol dydd ddoe (Mawrth 25).

Bellach, mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau bod antelop ifanc wedi ffoi yn ogystal â’r ddau hŷn a fu mewn adroddiadau.

Datganiad

“Gallwn gadarnhau bod 3 antelop y gors wedi dianc o’r lloc yn y sŵ, un gwryw yn ei llawn dwf, un fenyw, ac un ifanc,” meddai’r Cyngor mewn datganiad.

“Fodd bynnag, daeth yr un ifanc yn ei ôl yn fuan, ac fe gafodd ei ddal a’i roi yn ôl yn y lloc.

“Mae’r antelop gwrywaidd yn cael ei gyfrif fel anifail categori 1 oherwydd hyd ei gyrn, ac felly cafodd ei lonyddu gyda dart a’i ddychwelyd i’r lloc yn hwyr brynhawn ddoe.

“Mae’r antelop benywaidd bellach wedi’i dal ac wedi’i dychwelyd i’r lloc yn ystod yr oriau diwethaf.”

Y sŵ ar gau

Mae Cyngor wedi codi amheuon am allu’r sŵ i “weithredu’n gyfrifol a diogel”, gan nad dyma’r tro cyntaf i anifeiliaid ddianc oddi yno.

Dihangodd lyncs Ewrasaidd o’r sŵ fis Hydref 2017, a bu’n rhaid eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid categori un am gyfnod.

Dros y penwythnos cyhoeddodd y sŵ y byddan nhw’n cau am y tro yn unol â chanllawiau llywodraethol i rwystro lledaeniad y coronafeirws.