Mae’r ddau antelop wnaeth ddianc o sŵ Borth yng ngogledd Ceredigion bellach wedi dychwelyd yn ddiogel.

Cafwyd hyd i’r antelop gwrywaidd ddoe (dydd Mercher, Mawrth 25), gyda’r sŵ’n cyhoeddi datganiad ar eu tudalen Facebook yn cadarnhau hynny.

“Rydym wedi lleoli’r fenyw ac mae hi’n agos i’r sw,” meddai’r datganiad ar y pryd.

A bore heddiw (dydd Iau, Mawrth 26), daeth cadarnhad gan y sŵ fod yr antelop benywaidd wedi dychwelyd hefyd.

“Rydym yn falch o gyhoeddi i’n dilynwyr ein bod wedi ail-ddal ein Lewchwe benywaidd,” meddai datganiad ar dudalen facebook y sŵ.

“Unwaith yr oeddem ni wedi ei lleoli, llwyddom i lunio cynllun wnaeth lwyddo i alluogi’r lewchwe i gerdded i mewn i fan diogel o’r sŵ o’i gwirfodd ei hun.”

Amheuon am ddiogelwch

Mae Cyngor Ceredigion wedi codi amheuon am allu’r sŵ i “weithredu’n gyfrifol a diogel”, gan nad dyma’r tro cyntaf i anifeiliaid ddianc oddi yno.

Dihangodd lyncs Ewrasaidd o’r sŵ fis Hydref 2017, a bu’n rhaid eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid categori un am gyfnod.

Yn dilyn y digwyddiad yn 2017, llofnododd 12,000 o bobol ddeiseb ar-lein gan Ymddiriedolaeth Lyncs y Deyrnas Unedig yn galw am gau’r sŵ a gafodd ei phrynu gan Dean a Tracy Tweedy am £625,000 yn 2016.

“Fel awdurdod lleol, rydym wedi colli pob hyder yn allu’r sw i weithredu’n gyfrifol ac yn saff,” meddai’r cyngor.