Mae prif swyddog meddygol Cymru wedi dweud egluro mewn cynhadledd i’r wasg fod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi gweld “niferoedd uwch” o’r coronafeirws nag unman arall yng Nghymru oherwydd bod mwy o brofion yn cael eu cynnal yno.

Mae’r awdurdodau wedi bod dan y lach am gynnal cyn lleied o brofion yng Nghymru, sy’n golygu nad oes modd cael darlun clir o’r sefyllfa go iawn.

Dywed Dr Frank Atherton ei bod hi’n bosib bod y feirws yn lledaenu ar “raddfa uwch” yn ne Cymru o’i gymharu ag ardaloedd eraill, ond gallai hynny newid dros amser.

“Mae llawer mwy o bobl wedi cael eu profi ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ac mae hynny wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion,” meddai.

“Mae’n fater cymhleth ac mae nifer o resymau tu ôl i hynny, ond mae lot ohono’n ymwneud â phrofion.”

‘Heriol’

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn gofalu am bobol yn ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys.

Mae Dr Frank Atherton yn creu bod oddeutu 80% o’r boblogaeth yn debygol o ddioddef o’r coronafeirws “ar ryw bwynt.”

“Ar ryw bwynt, unwaith mae’r mesurau rydym wedi ei gosod yma yng Nghymru ac yn weddill y Deyrnas Unedig, mae yna risg y bydd pobl wedyn yn dechrau cael ei heintio eto,” meddai.

“Felly bydd y ffordd rydym ni’n rhyddhau’r mesurau yna’n bwysig iawn.”

Rhybuddia y bydd hi’n “gyfnod heriol iawn i’r Gwasanaeth Iechyd” a bod staff yn gweithio mewn “amseroedd digynsail.”

“Mae’n mynd i fod yn dynn ac mae’n mynd i fod yn anodd ac mae’n mynd i fod yn amser anodd i staff,” meddai.