Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Gwynedd wedi cau mynyddoedd prysuraf yr ardal gan gynnwys yr Wyddfa, yn dilyn y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr gafodd ei weld y penwythnos diwethaf yn rhai o safleoedd mwyaf poblogaidd Eryri.

Golyga’r mesurau hyn na fydd cyfleusterau parcio na mynediad i’r safleoedd mwyaf prysur yn Eryri, gan gynnwys Yr Wyddfa, Ogwen, Cader Idris, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy.

“Heddiw rydym yn cau’r mynediad cyhoeddus i’r ardaloedd mynyddig prysuraf gyda chydweithrediad yr heddlu a’r awdurdodau lleol,” meddai Emyr Williams, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Rydym yn gobeithio na welwn ni’r sefyllfaoedd digynsail a welwyd y penwythnos diwethaf yn cael eu hailadrodd.”

‘Mae ein neges yn glir’

“Mae ein neges yn glir – peidiwch ag ymweld â’r Parc Cenedlaethol nes bydd canllawiau’r Llywodraeth i osgoi teithio diangen wedi ei godi,” meddai wedyn.

“Rydym yn annog ymwelwyr oedd yn bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopa neu safle poblogaidd arall i ddilyn canllawiau’r llywodraeth, sef i aros adref a mynd allan i ymarfer yn eu hardal leol.

“Byddwn yn monitro effeithiolrwydd y mesur hwn yn agos, ac ni fyddwn yn oedi rhag cymryd camau pellach i gau mwy o ardaloedd os na fydd y sefyllfa’n gwella.”