Mae’r heddlu’n rhybuddio’r cyhoedd i osgoi cyhoeddi unrhyw wybodaeth a all ddangos pa dai sy’n gartrefi i bobl fregus, wrth i filoedd o bobl gael cyfarwyddyd i hunan-ynysu.

“Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gefnogol i’w gilydd, mae yna leiafrif bach a fydd yn ceisio ecsbloetio sefyllfaoedd fel hyn yn droseddol,” meddai datganiad ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Mae’r heddlu yn galw ar bobl i ystyried a ydyn nhw’n rhoi eu hunain neu eu cymdogion mewn perygl o ddioddef troseddu.

Mae rhybuddion a chynghorion yr heddlu’n cynnwys:

  • Peidio â gosod unrhyw beth ar du blaen unrhyw eiddo sy’n dangos bod y trigolion yn fregus neu’n hunan ynysu.
  • Peidio â rhoi manylion banc i unrhyw un sy’n dod i’r cartref.
  • Peidio â gadael drysau heb eu cloi.
  • Sefydlu grŵp WhatsApp stryd neu un cymunedol.
  • Ystyried y ffordd orau o drosglwyddo arian parod/nwyddau.

Galwadau ffôn gan sgamwyr

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn darogan y bydd pobl yn derbyn mwy o alwadau ffôn gan sgamwyr dros yr wythnosau nesaf.

Dywed wrth bobl roi’r ffôn i lawr os ydyn nhw’n teimlo’n ofnus neu dan fygythiad ac i beidio teimlo cael eu brysio gan fod sgamwyr yn ceisio rhuthro pobl i rannu manylion personol.

Ni ddylai neb ddatgelu manylion personol neu ariannol dros y ffôn, hyd yn oed os yw’r galwr yn honni ei fod yn galw o’ch banc.