Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi mesurau newydd llym i arafu lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru.

Fe fydd meysydd carafanau, gwersylloedd, mannau twristaidd a safleoedd poblogaidd gydag ymwelwyr yng Nghymru yn cau o heddiw (dydd Llun, Mawrth 23) ymlaen.

Daw’r cyhoeddiad wedi i filoedd o bobl heidio i fannau twristaidd fel Eryri a Pen-y-Fan ym Mannau Brycheiniog dros y penwythnos.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn gorchymyn tafarndai ar draws Cymru i gau eu drysau yn dilyn adroddiadau bod rhai yn torri rheolau a ddaeth i rym ddydd Sadwrn (Mawrth 21). Fe allai tafarndai sy’n parhau i fasnachu wynebu colli eu trwydded.

“Mae Cymru yn wlad hardd,” meddai Mark Drakeford.

“Mae hi’n denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn – ond nid nawr yw’r amser i wneud teithiau diangen. Rydym am i bobl ddod i Gymru unwaith fydd y coronafeirws wedi pasio.

“Heddiw, rydym yn cymryd camau i gau meysydd carafanau, gwersylloedd a rhai o’n lleoliadau ymwelwyr  mwyaf adnabyddus er mwyn cadw pobl yn saff a lleihau’r pwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd.

“Mae fy neges yn syml. Arhoswch adref os gwelwch yn dda ac achub bywydau.”

Pobl ddim yn dilyn canllawiau

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn gofidiau cynyddol nad oedd llawer o bobl yn dilyn canllawiau’r llywodraeth i leihau eu cysylltiad â phobl eraill.

Roedd tyrfaoedd mawr yn ymgynnull mewn rhai o ardaloedd awyr agored mwyaf poblogaidd Cymru dros y penwythnos.

Bydd pobl sydd yn gwersylla neu’n aros mewn carafán ar wyliau yn cael cais i fynd adref heddiw wrth i’r gwersylloedd a’r parciau gau, os nad oes rhesymau eithriadol fod yn rhaid iddyn nhw aros.

Ni fydd y mesurau newydd yma yn effeithio pobl sydd yn byw yn barhaol mewn carafán.

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad yma,” meddai Emyr Williams, prif swyddog Parciau Cenedlaethol Cymru.

“Ar hyn o bryd mae’n hanfodol nad ydi pobl yn teithio yn ddiangen ac yn gorlwytho ein hardaloedd gwledig.

“ Yn dilyn y cyhoeddiad hwn byddwn yn cau pob mynediad i brif atyniadau fel Eryri, a gwn fod fy nghydweithwyr ym Mannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro yn cymryd camau tebyg, er enghraifft cau llwybrau i Ben-y-Fâl a Phen-y-Fan.

Cadw’n heini yn “agos at adref”

Yn ôl Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru mae’n bwysig fod pawb yn parhau i gadw’n heini, “ond plîs gwnewch hyn yn agos at adref,” meddai.

“Mae angen i ni wneud popeth y medrwn i gadw’r feirws rhag lledu, mae hynny’n golygu dim teithio os nad oes gwirioneddol raid ac osgoi cyswllt agos gyda phobl wrth aros dau fetr oddi wrth bobl.”