Daeth cyhoeddiad  y prynhawn ma (Mawrth 23) bod y Sioe Fawr yn Llanelwedd eleni wedi’i chanslo oherwydd y coronafeirws.

Roedd disgwyl i’r sioe gael ei chynnal ym mis Gorffennaf eleni.

Mewn datganiad dywedodd Prif Weithredwr  Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Steve Hughson, na fydd y sioe yn cael ei chynnal eleni oherwydd Covid-19.

“Gyda chalon drom, oherwydd y sefyllfa sy’n gwaethygu mewn perthynas â Coronafeirws (Covid-19), mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi heddiw, ar ôl ystyried canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus yn ofalus, fod Sioe Frenhinol Cymru 2020 wedi’i chanslo.”

“Gyda’r Llywodraeth yn cynghori yn erbyn mynychu cynulliadau torfol ac yn cynghori camau pellach ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol a hunanynysu a theithio diangen, roedd y Gymdeithas yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall.”

“Calon drom”

Ychwanegodd Steve Hughson: “Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn sefydliad a arweinir gan ei haelodau, wrth ddarparu ein Sioe eiconig a digwyddiadau eraill sy’n rhan annatod o gefnogi ein cymunedau gwledig ac rydym yn deall effaith y penderfyniad hwn, sy’n cael ei wneud gyda chalon drom.”

“Rydym wedi ystyried gohirio neu a allem gynnal digwyddiad llai, ond am lawer o resymau, nid yw’r naill na’r llall o’r opsiynau hyn yn ymarferol.  Tra bo’r newydd hwn yn siomedig i bawb, rydym yn siŵr y byddech yn cytuno bod iechyd, diogelwch a lles ein haelodau, ymwelwyr, arddangoswyr a staff o’r pwys mwyaf.”

Fe fydd system ad-daliad i’r rhai sydd wedi prynu tocynnau.