Mae dyn fu farw yng Nghasnewydd ddoe wedi ei enwi gan yr heddlu heddiw.

Y gred yw bod Ronald Hayward, 42, o Ferthyr Tudful wedi marw o ganlyniad i “symudiad giatiau trwm”.

Mae Heddlu Gwent yn cynnal ymchwiliad ar y cyd â Gweithgor Iechyd a Diogelwch Cyngor Casnewydd.

Fe fu farw’r dyn wrth fynedfa masnach y cyfanwerthwr Blackmore ar Stryd Agincourt. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5am ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent fod y dyn wedi marw wrth i nwyddau gael eu trosglwyddo, proses a oedd yn cynnwys symud giatiau trwm.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod nhw’n cydweithio â’r ymchwiliad ac yn cydymdeimlo â theulu’r dyn.