Mae S4C yn ffilmio rhaglen am Côr-ona, y ffenomenen ar facebook sydd wedi denu miloedd o aelodau.

Côr agored ar Facebook yn codi calon

Fe gafodd Côr-ona ei sefydlu ar y We gan Catrin Toffoc ac mae wedi llwyddo i ddenu bron i 17,000 o aelodau, gyda channoedd o unigolion yn cyfrannu fideos o bell.

Yn rhaglen S4C bydd Rhys Meirion yn holi aelodau Côr-ona dros y ffôn, trwy ffenestr y tŷ a sgrin y cyfrifiadur.

Bydd cyfle i glywed hanesion nyrs sy’n parhau i weithio’n galed yn wyneb y feirws, teulu gwasgaredig, athro cerdd sy’n dysgu dros y We a’r unigolion bregus sy’n ceisio dygymod gyda’r broses o hunan ynysu.

“Mae’r hyn mae Catrin [Toffoc] wedi ei gyflawni ar dudalen Facebook Côr-ona yn ffenomenon,” meddai Rhys Meirion.

“Mae’n profi ein bod ni’r Cymry yn gweld ein diwylliant fel achubiaeth, ac yn dangos bod canu yn rhywbeth y mae pawb yn medru bod yn rhan ohono, o’r plant lleiaf un, i bobl hŷn yn ein cymdeithas.

“Mae’n wych bod modd cymdeithasu drwy dechnoleg erbyn hyn.”