Mae’n bosib y bydd gormod o blant yn dal i fynychu ysgolion yng Nghymru, yn ôl undeb addysg, gan olygu mwy o gyfle i ledaenu’r coronafeirws.

Ddydd Mercher mi gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn cau yn gynt na’r disgwyl er mwyn rhwystro lledaeniad coronafeirws.

Mae’r un cam bellach mewn grym ledled y Deyrnas Unedig, a dydd Iau cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan rhestr o’r rhieni fydd yn dal i gael anfon eu plant i’r ysgol.

Bydd y rheiny sydd yn cyfrannu at yr ymdrech yn erbyn coronafeirws yn dal yn medru anfon eu plant i’r ysgol, a phryder NEU Cymru yw bod gormod o broffesiynau ar y rhestr yma.

“Mae’r rhestr, a gyhoeddwyd y bore yma, yn hir – ac mi allai arwain at lawer o blant a phobol ifanc yn mynd i’r ysgol mewn rhai ardaloedd,” meddai David Evans, Ysgrifennydd Cymreig yr NEU.

“Rydym yn pryderu na fydd hyn yn gwireddu’r nod o arafu’r firws. Rydym yn aros am ddiffiniad clir o ‘blant bregus’ – y rheiny a fydd yn gallu mynd i’r ysgol.”

Y rhestr

Gwelir isod y rhestr o weithwyr sy’n dal i fedru anfon eu plant i’r ysgol – y rheiny sydd gyda swyddi sydd yng ngeiriau Llywodraeth San Steffan yn “hollbwysig” i’r ymateb i Covid-19.

  • Iechyd a gofal cymdeithasol
    • e doctoriaid, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, bydwragedd
  • Addysg a gofal plant
    • e staff dysgu, gofalwyr plant
  • Gwasanaethau cyhoeddus allweddol
    • e Rheiny sydd ynghlwm â’r sustem gyfiawnder, staff crefyddol, gweithwyr elusennau rheng flaen, newyddiadurwyr, darlledwyr
  • Llywodraeth a chynghorau
    • Swyddi gweinyddol “hanfodol”
  • Bwyd a nwyddau angenrheidiol
    • e cynhyrchwyr bwyd, y rheiny sy’n cludo bwyd/nwyddau
  • Diogelwch cyhoeddus a chenedlaethol
    • e heddlu, gweithwyr y fyddin, gweithwyr y gwasanaeth tân, staff carchardai
  • Trafnidiaeth
    • Y rheiny sy’n gweithio ar wasanaethau trafnidiaeth awyr, dŵr a rheilffyrdd
  • Gwasanaethau eraill
    • e gweithwyr banciau, gweithwyr sector niwclear/trydan/nwy.