Mae Cymdeithas yr Iaith yn bryderus am iechyd un o’i chyn-Gadeiryddion, Ffred Ffransis, sy’n styc ym Mheriw gyda’i wraig Meinir.

Gyda’r ddau yn eu saithdegau, maen nhw yn y categori risg uchel ar gyfer coronafeirws ac ar hyn o bryd yn ninas Cusco sydd 11,200 troedfedd uwch lefel y môr.

Ac mae Ffred Ffransis yn dioddef o Anhwylder Systolig y Fentrigl Chwith sy’n effeithio ar y galon, ac yn gorfod cymryd meddyginiaeth a chael profion gwaed yn rheolaidd.

Golyga’r afiechyd ei bod hi’n anodd iddo anadlu ac, am fod Cusco yn uchel yn yr Andes ble mae’r aer yn denau, gallai fod yn beryglus iddo yno.

Caeodd Periw ei holl ffiniau ar Fawrth 15 gyda dim ond 24 awr o rybudd, oedd ddim yn ddigon o amser i nifer o bobl drefnu trafnidiaeth o’r wlad gan fod pob hediad yn llawn.

Golyga hyn fod miloedd o bobl wedi’u gadael yno heb ffordd o adael, gan gynnwys 400 o ddinasyddion gwledydd Prydain.

“Mae Meinir a Ffred yn aelodau blaenllaw o Gymdeithas yr Iaith – y ddau wedi bod yn ymgyrchwyr diflino dros yr iaith dros nifer fawr o flynyddoedd,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Ruth

“Rydyn ni’n poeni’n fawr amdanyn nhw ac am y Cymry eraill sy’n dal ym Mheriw heb ffordd i adael, gan gynnwys dau fachgen 19 oed o’r Preseli.”

 Dan Walker yn ymddiheuro am sylwadau sarhaus

 Mae’r cyflwynydd teledu Dan Walker wedi ymddiheuro am gyhoeddi neges Trydar yn gwneud hwyl am ben enw Ffred Ffransis.

Daeth enw Ffred Ffransis ar y teledu wrth i’r BBC wneud darn ar y bobl Brydeinig sy’n styc ym Mheriw.

“Yda chi’n gwybod pan mae hi wedi bod yn ddiwrnod hir ac mae pethau gwirion yn eich gwneud chi chwerthin?,” holodd Dan Walker ar wefan trydar.

“Eithaf siŵr nad dyna’i enw go-iawn. Freaky.”

Fe gafodd ei gondemnio gan Gymry ar trydar ac roedd yn gyflym i ymddiheuro a galw ei hun yn “ffŵl”.

Mae’n debyg bod Dan Walker yn fab i Gymraes ac mae ei enw canol yw Meirion.

“Derbyniwch fy ymddiheuriadau. Rwyf o stoc Cymru fy hun. Mae fy mam yn Gymraeg!” meddai Dan Walker.

“Rwy’n ymwybodol iawn o’r ‘Ff’ ond erioed wedi ei weld mewn enw,” ychwanegodd.