Mae Cyngor Caerdydd yn cael ei gyhuddo o esgeuluso mannau gwyrdd y ddinas er mwyn dibenion “masnachol”.

Yn ôl Nerys Lloyd-Pierce, Cadeirydd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, mae’r Cyngor yn bwriadu gwerthu pocedi bach o dir cyhoeddus ledled y ddinas, mewn mannau sy’n cynnwys Parc Gleider a Choed y Caeau.

Ac er nad yw hyn yn cael ei gydnabod yn swyddogol mae’n honni bod y mater yn “gyfrinach agored” ymhlith cynghorwyr.

Trwy werthu’r lleiniau yma o dir gwyrdd mae’n pryderu bydd y coed sydd arnyn nhw yn cael eu torri i lawr, ac mae hithau’n pryderu am oblygiadau ehangach hynny.

“Mae pob ffactor o bwys,” meddai wrth golwg360. “Mae’r elfen iechyd meddwl. Mae coed yn helpu’n iechyd meddwl.

“Ac mae’r ffaith boed coed a mannau gwyrdd eraill yn helpu amsugno dŵr gormodol ac yn darparu aer glân. Hefyd mae’r elfen egwyddorol.

“Mae’r llefydd yma wedi eu hanrhegu i’r ddinas er lles ac iechyd y boblogaeth. Ac yn y gorffennol roedd yna ryw ddealltwriaeth y byddan nhw’n cael eu hamddiffyn.

“Ond dyw ‘dealltwriaeth’ ddim yn golygu unrhyw beth i Gyngor sydd ond yn medru gweld elw masnachol.”

Pryderon ehangach

Stribedi bach iawn o dir sydd dan sylw Nerys Lloyd-Pierce, ac mae lle i ddadlau na fyddai goblygiadau mawr i werthu’r rhain. Ei dadl hithau yw bod angen edrych ar y darlun mawr.

“Os edrychwch ar fap o’r parcdir canolog – Parc Biwt, caeau Llandaf, a chaeau Pontcanna, ac ati – yn y 1950au cynnar roedd yn draean yn fwy nag y maen yn awr,” meddai.

“A hynny achos mae adeiladau wedi’u codi ar bocedi ohono. Felly tra bod modd cyfiawnhau gwerthu darnau bach fan hyn a fan draw, yn ei gyfanrwydd mae parcdir a mannau gwyrdd yn erydu.

“Ac rydym ei angen yn awr yn fwy nag erioed. Dw i ddim yn credu bod unrhyw un wir yn gallu gwadu bod newid hinsawdd yn digwydd.

“Dw i erioed wedi gweld y fath lifogydd ym Mharc Biwt a chaeau Pontcanna fel yr oedden nhw [fis diwethaf] … Felly mae pob poced o dir gwyrdd yn werthfawr.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am ymateb.