Dyw Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ddim yn disgwyl i arholiadau’r haf gael eu cynnal, ar ôl iddi gau ysgolion drwy’r wlad yn sgil y coronafeirws.

Roedd disgyblion yn disgwyl sefyll eu harholiadau TGAU a Safon Uwch ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Mae’n dweud y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud “cyn gynted â phosib”.

Asesiadau?

Yn ôl Kirsty Williams, mae disgwyl y bydd disgyblion yn cael eu harholi drwy asesiadau yn lle arholiadau.

“Rydym yn gobeithio gwneud cyhoeddiad ar draws yr holl wledydd cyn gynted â phosib,” meddai.

“Byddwn yn ceisio symud i ddosbarthu graddau i fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch ar sail tystiolaeth asesiadau sydd eisoes ar gael.

“Bydd hynny ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13 yn unig.”