Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno mesurau i wahardd plastig untro yng Nghymru.

Y bwriad yw cael gwared ar wellt, troellwyr, gwlân clustiau, ffyn balwn, platiau, cyllyll a ffyrc plastig.

Dywed Llywodraeth Cymru y byddai’r gwaharddiad yn rhan o fesurau ehangach i sicrhau statws Cymru fel prif genedl ailgylchu’r byd.

Dywed y dirprwy-weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn, y bydd ymgynghoriad ar y cynigion yn cymryd lle yn ystod y misoedd nesaf, gyda gwaharddiadau yn dod i rym flwyddyn nesaf.

“Mae’r plastig untro yr ydym am eu gwahardd yn anodd eu hailgylchu ac maent i’w cael yn aml ar draethau a moroedd o amgylch ein harfordiroedd, gan ddifetha ein gwlad a niweidio ein hamgylchedd naturiol a morol,” meddai Hannah Blythyn.

“Mae’n hollbwysig nad ydym yn taflu ein dyfodol i ffwrdd – a dyma pam rydyn ni’n credu y bydd y gweithredu uniongyrchol hwn yn cael effaith sylweddol ar newid ymddygiad pobl a gwneud iddyn nhw ystyried eu gwastraff pan maen nhw’n teithio o gwmpas.”