Fydd Pobol y Cwm na Rownd a Rownd ddim yn cael eu ffilmio am y tro, wrth i’r BBC ddilyn canllawiau iechyd yn sgil y coronafeirws.

Mewn datganiad, dywed y BBC na fyddan nhw’n ffilmio unrhyw ddramâu parhaus yn eu stiwdios ar sail cyngor Llywodraeth Prydain am ddod â thorfeydd o bobol ynghyd.

Dywed y Gorfforaeth mewn datganiad y byddan nhw’n parhau i ddilyn y cyngor diweddaraf.

Bydd hynny’n cael effaith ar raglenni eraill fel Casualty, Doctors, EastEnders, Holby City a River City.

Datganiad

“Yn wyneb ymlediad Covid-19, ar ôl cryn ystyriaeth, penderfynwyd y bydd ffilmio ar holl ddramâu parhaus Stiwdios y BBC yn cael ei ohirio hyd nes bod rhybudd pellach,” meddai’r Gorfforaeth mewn datganiad.

“Cafodd y penderfyniad ei wneud ar ôl y diweddariad diwethaf gan y Llywodraeth.

“Byddwn yn parhau i ddilyn y newyddion a’r cyngor diweddaraf gan Sefydliad Iechyd y Byd a sefydliadau iechyd cyhoeddus.”