Mae Prifysgol Caerdydd wedi penderfynu gohirio seremonïau graddio oherwydd pryderon am ledaenu’r coronafeirws.

Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl i’r brifysgol atal addysgu wyneb yn wyneb oherwydd y firws.

Mewn datganiad, dywed y brifysgol nad oes modd cadarnhau pryd y bydd seremonïau sydd wedi’u gohirio am gael eu cynnal.

“Rydym yn sylweddoli faint o siom fydd hyn ond gallwn eich sicrhau na ddaethom i’r penderfyniad hwn ar chwarae bach,” meddai llefarydd.

“Iechyd a lles ein myfyrwyr, eu gwesteion a’n staff yw ein blaenoriaeth – yn enwedig ar adegau mor anodd a heriol.”

Er ei bod hi’n aneglur beth fydd trefniadau gwahanol ysgolion yn y cyfnod arholi, dywed y brifysgol na fydd y trefniadau newydd yma yn amharu ar ddyfarnu graddau i fyfyrwyr sy’n graddio, ac y bydd pob myfyrwyr sy’n cwblhau cyrsiau yn dal i dderbyn y dogfennau cywir.

Does dim cadarnhad eto a fydd prifysgolion eraill yng Nghymru yn cymryd yr un camau.