Yn sgil y pryderon ynglŷn â lledaeniad COVID-19 ac er lles eu darllenwyr ac ymwelwyr, bydd adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn cau i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol o 5pm ddydd Mawrth 17 Mawrth.

Bydd pob digwyddiad cyhoeddus ar safle’r Llyfrgell yn cael ei ohirio neu ganslo am gyfnod o dri mis yn y lle cyntaf.

Bydd mynediad i ystod eang o adnoddau digidol y Llyfrgell trwy gydol y cyfnod hwn.