Mae Ewro 2020, prif gystadleuaeth bêl-droed gwledydd Ewrop, wedi’i gohirio tan y flwyddyn nesaf.

Daw’r cyhoeddiad gan gorff UEFA wrth i’r byd chwaraeon ohirio gemau a chystadlaethau yn sgil y coronafeirws.

Fe fu cyfarfod rhwng cynrychiolwyr o 55 o wledydd fore heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 17).

Mae disgwyl i’r gystadleuaeth, oedd i fod i gael ei chynnal ym mis Mehefin, gael ei chynnal rhwng Mehefin 11 a Gorffennaf 11 y flwyddyn nesaf.

Roedd disgwyl i Gymru chwarae yn Rhufain a Baku, dwy o 12 o ddinasoedd cartre’r gystadleuaeth.