Mae trefnwyr Gŵyl Gomedi Machynlleth wedi gohirio’r digwyddiad yn sgil y coronafeirws ac yn cynnig ad-daliad ar docynnau, ond maen nhw’n dweud na fydd modd ad-dalu ffïoedd bwcio.

Roedd disgwyl i’r ŵyl ddwyieithog gael ei chynnal yn y dref rhwng Mai 1-3 ond byddai ei chynnal a dod ag 8,000 o bobol i’r dref, meddai’r trefnwyr, “yn peri risg di-angen i iechyd y cyhoedd”.

Maen nhw’n gobeithio y gall yr ŵyl yn Aberystwyth yn yr hydref “wneud yn iawn am y siom” o orfod canslo Machynlleth.

Bob blwyddyn, mae’r ŵyl yn denu enwau mawr y sîn gomedi Gymraeg a Saesneg ac ymhlith y rhai oedd i fod i berfformio yno eleni roedd Joe Lycett, Josh Widdicombe, Kiri Pritchard-McLean, Tudur Owen, Nish Kumar a Stewart Lee.

Datganiad

“Oherwydd argyfwng y coronafeirws covid-19 ar hyn o bryd, gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi bod rhaid i ni ganslo Gŵyl Gomedi Machynlleth eleni,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.

“Rydym yn gwybod y bydd hyn yn destun cryn siom i bawb oedd yn bwriadu mynychu, ac rydym yn rhannu’r siom.

“Plis deallwch nad ydym wedi cymryd y penderfyniad hwn yn ddi-feddwl, ond o dan yr arweiniad a’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, roeddem yn teimlo nad oedd modd i’n cydwybod ni barhau.

“Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i dref Machynlleth, ein cynulleidfa, yr artistiaid a’r criw yn ddifrifol iawn, ac felly rydym yn derbyn y byddai dod ag 8,000 o bobol i’r dref yn peri risg di-angen i iechyd cyhoeddus.”

Y celfyddydau a’r feirws

Mae disgwyl i’r celfyddydau a lleoliadau ddioddef yn sylweddol eleni o ganlyniad i ganslo neu ohirio digwyddiadau yn sgil y feirws, ac mae’r trefnwyr yn cydnabod hynny yn eu datganiad.

“Mae’r Celfyddydau’n un o nifer o sectorau fydd yn cael ergyd sylweddol dros y misoedd i ddod, a thra bod canslo’r ŵyl yn gryn ergyd i ninnau, rydym yn gwybod fod yna sgil effeithiau i bawb rydym yn cydweithio â nhw i gynnal yr ŵyl.

“Os ydych chi’n gwerthfawrogi’r Celfyddydau, plis ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o’u cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.”

Dywed y trefnwyr y bydd yr ŵyl “yn dychwelyd yn gryfach yn 2021”, ac y bydd pawb sydd wedi prynu tocynnau a lle i wersylla ar gyfer yr ŵyl eleni’n cael ad-daliad llawn, ond na fydd modd ad-dalu ffïoedd bwcio tocynnau.