Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn – mewn egwyddor – argymhellion gan arbenigwyr ar sut i roi terfyn ar ddigartrefedd.

Daw’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Tai, Julie James sy’n dweud bod gan holl wasanaethau cyhoeddus Cymru ran i’w chwarae.

Y llynedd, sefydlodd Julie James y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i gynghori Llywodraeth Cymru ar y mesurau sydd eu hangen i gyflawni’r nod.

Cafodd yr adroddiad cyntaf ei gyhoeddi fis Hydref ac roedd yn canolbwyntio ar y camau angenrheidiol i fynd i’r afael â chysgu allan ar y stryd yn ystod gaeaf 2019/20 ac yn y hirdymor.

Yn sgil yr adroddiad, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfres o gamau brys i helpu i gael rhagor o loches i bobl sy’n byw ar y stryd.

Adroddiad

A nawr, mae’r grŵp sy’n cael ei gadeirio gan Jon Sparkes, prif weithredwr y mudiad Crisis, wedi cyflwyno eu hail adroddiad sydd yn manylu ar bolisïau hirdymor, strwythurol a strategol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys fframwaith o bolisïau, cynlluniau a dulliau traws llywodraethol sydd â’r bwriad o sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael llety neu, pan nad yw hi’n bosib cael llety, i sicrhau bod yr achosion yn brin ac nad ydynt yn ailddigwydd.

“Nid yw digartrefedd yn anochel, ac rydyn ni’n gwybod bod modd rhoi diwedd arno’n llwyr os ydyn ni i gyd yn cydweithio,” meddai Jon Sparkes.

“Mae’n hanfodol bod gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau ac unigolion i gyd yn gwneud eu rhan i weithio gydag unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref er mwyn sicrhau nad yw’n colli ei gartref yn y lle cyntaf ac ymateb yn gyflym os na ellir atal digartrefedd.”