Mae’r corff arolygu ysgolion Estyn wedi cyhoeddi ei fod yn atal holl arolygiadau a gweithgareddau cysylltiedig o heddiw (dydd Llun, Mawrth 16) ymlaen oherwydd y coronafeirws.

Dywedodd y corff eu bod wedi gwneud y penderfyniad “oherwydd y cyfnod cyfnewidiol a heriol sy’n wynebu ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill o achos Covid-19,” yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru.

Fe fydd yn parhau am gyfnod amhenodol “hyd nes bod y sefyllfa bresennol wedi mynd heibio neu wedi newid yn sylweddol er gwell.”

“Helpu i gynnal lefelau staffio”

Dywedodd Meilyr Rowlands Prif Arolygydd Estyn:Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn i ganiatáu i arweinwyr a staff ym mhob darparwr addysg a hyfforddiant, a’r sefydliadau hynny sy’n eu cefnogi, ganolbwyntio’n llawn ar les eu dysgwyr, eu staff a’u teuluoedd.

“Mae darparwyr yn debygol o weld cynnydd yn absenoldeb staff yn ystod yr amser hwn. Bydd y penderfyniad i atal gwaith arolygu yn helpu i gynnal lefelau staffio trwy sicrhau nad yw arolygwyr cymheiriaid ac arolygwyr eraill allan o’u sefydliadau ar yr adeg bwysig hon.”

Ychwanegodd y bydd eu staff yn helpu i gefnogi darparwyr a system addysg Cymru.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i benderfynu ar y ffordd orau o wneud hyn. Efallai y bydd achosion lle hoffai darparwyr inni barhau â rhai agweddau ar ein gwaith ymgysylltu neu gefnogi gyda nhw, o bell o bosibl a thrwy ddefnyddio technoleg.”

Fe fydd Estyn yn parhau i adolygu’r sefyllfa, meddai.

Does dim cyhoeddiad ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chau ysgolion oherwydd y coronafeirws ond mae Prifysgolion Bangor, Abertawe a’r Drindod Dew Sant wedi cyhoeddi eu bod nhw’n rhoi’r gorau i gynnal darlithoedd wyneb yn wyneb.