Mae’r Urdd wedi cyhoeddi eu bod yn cymryd “camau mawr” oherwydd y sefyllfa bresennol o ran Coronafeirws, gan gynnwys Gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych tan 2021 a chau ei dri gwersyll.

Dywedodd yr Urdd eu bod yn cymryd y camau “o ran iechyd a lles aelodau, staff a gwirfoddolwyr.”

Bydd yr Urdd yn:

– Cau ei dri gwersyll (Llangrannog, Caerdydd a Glan-llyn) i holl weithgareddau preswyl o ddydd Gwener 20 Mawrth 2020 hyd nes bydd rhybudd pellach

– Canslo’r holl Eisteddfodau lleol a rhanbarthol

– Canslo pob cystadleuaeth chwaraeon cenedlaethol

– Canslo pob gweithgaredd gymunedol nes bydd rhybudd pellach

Eisteddfod yr Urdd

Bydd Eisteddfod yr Urdd nawr yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych ym mis Mai 2021.

Mewn datganaid dyweodd bod yr Urdd yn trafod yn barhaus gyda’i bartneriaid darlledu, S4C a BBC Radio Cymru, “o ran yr opsiynau i ddathlu doniau’r aelodau ar blatfform gwahanol yn 2020”.

“Ergyd ariannol”

Ychwanegodd yr Urdd bod canslo digwyddiadau mawr a chau’r gwersylloedd yn cyflwyno “heriau ariannol sylweddol i’r Urdd” ac mae amcangyfrif cychwynnol yn awgrymu bydd  ergyd ariannol o bron i £4 miliwn yn dilyn cyhoeddiadau heddiw (dydd Llun, Mawrth 16).

Mae’r Urdd yn trafod gyda’i holl bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yr effaith sylweddol y bydd y sefyllfa bresennol yn ei chael ar y mudiad, ei weithlu o 320 ac ar bobl ifanc a phlant Cymru, meddai.

“Siom enbyd”

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: “Mae’n siom enbyd i ni i gyd orfod cau ein gwersylloedd a chanslo ein digwyddiadau, ond mae diogelwch a lles ein staff, ein haelodau a’n cefnogwyr yn flaenoriaeth llwyr. Ein bwriad nawr yw mynd ati i ddiogelu’r mudiad trwy gynllunio dyfodol cynaliadwy a defnyddio ein hynni, ein hymrwymiad a’n gwerthoedd i helpu Cymru i ymdopi â’r argyfwng hwn.

“Bydd y mudiad, a ffurfiwyd bron i ganrif yn ôl ar egwyddorion o ymrwymiad cadarn i Gymru a chyd-ddyn, yn trafod y sefyllfa bresennol gyda Gweinidogion y Llywodraeth a hefyd yn edrych ar sut y gellid defnyddio’r Urdd a’i staff i ymateb i’r heriau cynyddol sy’n wynebu’r henoed a’r bregus yng Nghymru yn nghysgod y feirws hwn.”