Mae Elin Jones yn awgrymu canu ‘Yma O Hyd’ wrth olchi dwylo.

Daw’r awgrym mewn neges Twitter sy’n dangos sut i olchi dwylo i guriad y glasur gan Dafydd Iwan.

Mae 94 o achosion bellach wedi’u cadarnhau yng Nghymru, gyda 34 o’r newydd heddiw (dydd Sul, Mawrth 15).

Fe ddaw wrth i Lywodraeth Prydain annog pobol i ganu ‘Pen-blwydd Hapus’ – cân sy’n para oddeutu 20 eiliad, yr hyd sy’n cael ei awgrymu ar gyfer golchi dwylo’n ddiogel.

Ac mae’n dilyn awgrym gan Nia Wyn Jones, Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Dinbych y dylid canu cytgan ‘Anfonaf Angel’ gan Robat Arwyn, sy’n para tua 38 eiliad.