Fe fydd Ysgol Gynradd Santes Tudful ym Merthyr Tudful ynghau yfory (dydd Llun, Mawrth 16) oherwydd Coronafeirws.

Mewn neges sydd wedi ymddangos ar Twitter, dywed yr ysgol eu bod nhw’n cymryd “camau rhagofal” ar ôl i aelod o staff dderbyn triniaeth ar gyfer y firws.

Bydd yr ysgol yn cael ei glanhau’n drylwyr, ac yn agor eto ddydd Mawrth (Mawrth 17).

Mae’r ysgol yn annog rhieni i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru, ac i gadw plant draw o’r ysgol am saith diwrnod os oes ganddyn nhw symptomau.

“Ein blaenoriaeth erioed fu iechyd a lles cymuned ein hysgol, ac rydym yn gweithio er mwyn cadw’r ysgol ar agor yn unol â chyngor ac arweiniad presennol y Llywodraeth,” meddai’r ysgol mewn datganiad.

“Diolch bob amser am eich cefnogaeth barhaus.”