Cafodd mwy nag £11,000 ei godi at apêl Clwb y Bont yn sgil gig mawr yn y Ffatri Bop yn y Rhondda neithiwr (nos Wener, Mawrth 13).

Cafodd clwb Cymraeg Pontypridd ei ddifrodi’n sylweddol gan y llifogydd diweddar yn sgil Storm Dennis.

Mae’r clwb yn amcangyfrif y gallai gostio hyd at £40,000 i adfer yr adeilad.

Y perfformwyr neithiwr oedd Elin Fflur, Eden, Al Lewis, Mei Gwynedd, Catsgam, Bryn Fôn a’r Band, Huw Chiswell a Lloyd Macey a’r Band.

Yn perfformio mewn ail gig yno heno, sy’n dechrau am 7.30yh mae Charlotte Church, Amy Wadge, Mike Peters, Andy Fairweather-Low a James Dean Bradfield.

Yfory (nos Sul, Mawrth 15) o 12.30 ymlaen, bydd Kizzy Crawford a Chroma ymhlith y perfformwyr yn yr un lleoliad.