Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth i unigrwydd a iechyd meddwl pobol sy’n ynysu eu hunain wrth baratoi ar gyfer ymlediad coronavirus.

Roedd 38 o achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru erbyn neithiwr (nos Wener, Mawrth 13), ond mae disgwyl cynnydd sylweddol yn y nifer dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi symud i’r cyfnod “oedi” ers dydd Iau (Mawrth 12), yn unol â dulliau gweithredu Llywodraeth Prydain.

Mae disgwyl i’r camau sy’n cael eu cymryd gynnwys apwyntiadau meddygol o bell, a allai gael effaith fwy sylweddol ar gleifion unig a’r rhai sydd â salwch meddwl, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.

‘Realiti anffodus’

“Wrth i ni ymrafael â’r realiti anffodus fod coronavirus yn mynd i waethygu’n sylfaenol yng Nghymru, rhaid i ni i gyd ofalu am aelodau diniwed ac anghofiedig y gymdeithas,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae’n gwbl briodol fod ein pobol broffesiynol ym maes iechyd yn paratoi cynlluniau er mwyn ymdrin yn y ffordd orau â coronavirus.

“Yn ddiau, bydd y cynlluniau hyn yn mynd i’r afael â’r heriau iechyd corfforol sylweddol y bydd y firws yn eu hachosi.

“Heddiw, dw i’n gofyn i Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cymru sicrhau nad yw’r cynlluniau hyn yn anghofio am effaith coronavirus ar iechyd meddwl ac unigrwydd.

“Bydd nifer sy’n gorfod ynysu eu hunain ledled Cymru’n profi unigrwydd difrifol tra eu bod nhw’n gwneud hynny, tra gallai’r rhai â salwch meddwl sy’n ynysu eu hunain dorri’n rhydd rhag rhwydweithiau cymorth hanfodol.

“Dw i’n siŵr y bydd strategaethau’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sy’n cael eu llunio ar gyfer ymdrin â coronavirus yn cynnwys rôl sylweddol teleiechyd ac ymgynghoriadau o bell ar gyfer cyflyrau iechyd corfforol.

“Dw i’n annog y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i sicrhau bod eu strategaethau hefyd yn cynnwys capasiti digonol ar gyfer ymgynghoriadau iechyd meddwl o bell fel bod y rhai â salwch meddwl neu unigrwydd difrifol yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw wrth ynysu eu hunain.”