Bydd ymchwilwyr yn cyhoeddi adroddiad terfynol i’r ddamwain awyren a laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala heddiw (dydd Gwener, Mawrth 13).

Roedd Emiliano Sala, 28, ymosodwr o’r Ariannin, yn hedfan o Nantes i Gaerdydd wedi iddo arwyddo gyda chlwb Dinas Caerdydd, pan blymiodd yr awyren i’r Sianel ar Ionawr 21 2019.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod yng ngweddillion yr awyren, ond nid yw corff y peilot David Ibbotson wedi cael ei ddarganfod.

Dywed adroddiad a gyhoeddwyd gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr nad oedd gan David Ibbotson drwydded i gynnal teithiau awyren masnachol.

Mae teuluoedd Emiliano Sala a David Ibbotson wedi galw am godi’r  awyren o’r dŵr er mwyn ceisio darganfod beth ddigwyddodd.

Dywed y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr nad ydyn nhw wedi ceisio codi’r awyren oherwydd y gost, y wybodaeth sydd ganddyn nhw eisoes a’r risg “na fyddai’r awyren yn darparu tystiolaeth derfynol.”

Anghydfod cyfreithiol

Mae clwb pêl-droed Caerdydd yn parhau i fod mewn dadl gyfreithiol gyda Nantes dros daliad ffi o £15 miliwn am y pêl-droediwr.

Mae’r clwb yn dadlau nad ydyn nhw’n atebol am y swm llawn gan nad oedd Emiliano Sala yn chwarae i Gaerdydd yn swyddogol pan fu farw.

Mae Caerdydd wedi annog awdurdodau Ffrainc i gynnal ymchwiliad swyddogol i farwolaeth Emiliano Sala.