Mae Llafur Cymru wedi canslo’i chynhadledd gwanwyn yn sgil pryderon am ledaeniad coronafeirws.
Roedd y blaid wedi trefnu bod ei chynhadledd wleidyddol yn cael ei chynnal yn Llandudno rhwng Mawrth 27 a Mawrth 29.
Ond mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog ac arweinydd y blaid yng Nghymru, wedi dweud nad yw’n briodol iddi fynd rhagddi.
“Ar hyn o bryd mae’r Llywodraeth Lafur gyfan yn canolbwyntio ar ymateb i her fawr y coronafeirws,” meddai.
“A dw i wedi penderfynu na fyddai’n briodol bod aelodau Llywodraeth Cymru yn cael ei dargyfeirio o’r cyfrifoldebau yna.”
Cynadleddau
Bellach mae 596 achos wedi’u cadarnhau ledled y Deyrnas Unedig, ac mae 25 o’r rheiny yng Nghymru.
Cafodd cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig ei chynnal yn Llangollen ar Fawrth 6-7, ac mae Plaid Cymru eisoes wedi canslo’i chynhadledd hithau.