Mae Plaid Cymru wedi canslo’i chynhadledd gwanwyn oherwydd pryderon am goronafeirws.

Roedd y Blaid wedi trefnu cynnal y gynhadledd wleidyddol ym Mhafiliwn Llangollen rhwng Mawrth 20 a Mawrth 21.

Ond bellach mae’r digwyddiad wedi’i ganslo oherwydd llediad y firws, COVID-19 – haint sydd bellach wedi cyrraedd pob cwr o’r byd.

“Mae iechyd ein haelodau, cefnogwyr, rhanddeiliaid, yn hollbwysig i ni,” meddai datganiad gan Blaid Cymru.

“Mae Plaid Cymru wedi gwrando ar y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf – yn benodol y cyngor gan Sefydliad Iechyd y Byd bod yn rhaid gweithredu’n ‘sydyn ac yn ymosodol’.

“Rydym yn credu mai canslo’r gynhadledd yw’r cam mwyaf cyfrifol i ni ei gymryd dan yr amgylchiadau presennol.”

Cynadleddau

Bellach mae 460 achos wedi’u cadarnhau ledled y Deyrnas Unedig, ac mae 19 o’r rheiny yng Nghymru.

Cafodd cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig ei chynnal yn Llangollen ar Fawrth 6-7, ac mae Llafur Cymru wedi trefnu cynnal ei chynhadledd hithau yn Llandudno ar Fawrth 28-29.

Ag achosion o goronafeirws yn cynyddu, mae cryn ddyfalu y bydd Llafur hefyd yn canslo’i chynhadledd hithau hefyd.