Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i greu ‘Coedwig Genedlaethol’ a fydd yn ymestyn dros hyd a lled y wlad.

Bydd gwerth £5m yn mynd tuag at adfer a chynnal coetiroedd hynafol Cymru, a chreu coetiroedd newydd – daw’r arian yma o gyllideb y Llywodraeth.

Ac mi fydd £10m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn dau gynllun penodol – Creu Coetir Glastir ac Adfer Coetir Glastir.

Wrth gyhoeddi’r cynllun mae Prif Weinidog Cymru wedi tynnu sylw at yr “heriau amgylcheddol enfawr mae’r byd yn eu hwynebu”, ac mae’n dweud bod coedwigoedd yn ateb i hynny.

“Plannu hadau”

“Heddiw rydyn ni’n plannu hadau ein huchelgais,” meddai Mark Drakeford.

“Rydyn ni am weithio gyda ffermwyr, sefydliadau gwirfoddol, cynghorau, arbenigwyr yn yr amgylchedd a chymunedau lleol i droi ein huchelgais yn weithredu uniongyrchol a chyd-ymrwymiad hirdymor…

“Er mwyn cenedlaethau’r dyfodol mae’n ddyletswydd arnon ni i ddiogelu natur rhag peryglon ein hinsawdd wrth iddi newid, ond bydd amgylchedd naturiol iach hefyd yn amddiffyn ein cymunedau rhag y peryglon rydyn ni ein hunain yn eu hwynebu.”