Mae Prifysgol Aberystwyth yn dweud wrth golwg360 eu bod nhw’n “parhau i fonitro’r sefyllfa” ymysg pryderon am coronavirus.

Ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 10) gwelodd golwg360 e-bost gan y brifysgol oedd yn argymell y dylai aelodau staff baratoi ar gyfer gweithio o adref oherwydd amhariadau posib oherwydd y firws.

Roedd yr e-bost yn gofyn i’w staff brofi eu bod nhw’n medru defnyddio’r cyswllt cartref a rhwydwaith y Brifysgol mewn da bryd, er mwyn sicrhau bod modd datrys unrhyw broblemau cyn y bydd gofyn iddyn nhw weithio o adref.

Dywedodd aelod o staff wrth Golwg360 fod y sefyllfa’n dal yn aneglur, ac nad yw hi’n glir a fydd disgwyl i ddarlithwyr ac aelodau o staff gynnal darlithoedd a seminarau o gartref.

Does dim achosion o’r firws yn Aberystwyth, ond mae disgwyl iddo fod ar ei anterth erbyn mis Mai, pan fydd arholiadau semester 2 y brifysgol yn cael eu cynnal.

Yr e-bost

“Fel rhan o baratoadau’r Brifysgol ar gyfer ar gyfer amhariadau posib oherwydd Coronafeirws, gofynnwyd i sicrhau bod pob aelod o staff yn medru defnyddio rhwydwaith y Brifysgol a’r systemau cysylltiedig pe bai angen gweithio o bell neu o adref,” meddai’r e-bost.

“Er mwyn gwneud hynny, bydd angen sefydlu Dilysu Aml-Ffactor, sy’n gofyn cymryd rhai camau tra ar gampws y Brifysgol. Mae canllawiau ar y camau angenrheidiol ar gael yn: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=1547.

“Gofynnir i gydweithwyr brofi eu bod yn medru defnyddio rhwydwaith a systemau’r Brifysgol mewn da bryd, er mwyn sicrhau y gellir datrys unrhyw broblemau cyn y bydd y gofyn i weithio o bell/adref yn codi.

“Gall y ddesg gymorth Gwasanaethau Gwybodaeth gynorthwyo gydag unrhyw wybodaeth bellach neu ddatrys unrhyw broblemau….”

Ymateb Prifysgol Aberystwyth

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau i fonitro’r sefyllfa o ran coronafirws Covid-19 ac yn cymryd y camau priodol, yn unol â chyfarwyddyd Iechyd Cyhoeddus Cymru,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol wrth golwg360.

“Rydym yn gweithredu yn ôl yr arfer yr hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn cynllunio’n fanwl ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd posib ac yn barod i ymateb os a phryd y bydd unrhyw beth yn newid.”