Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 10) i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Bydd y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru yn ceisio sicrhau bod grym, adnoddau a dylanwad yn cael eu rhannu’n gyfartal rhwng pob menyw, dyn a di-ryw.

Cam arall y bydd Llywodraeth Cymru’n ei gymryd yw cynnal adolygiad o gyfnodau mamolaeth ac absenoldeb rhiant a rennir.

Byddan nhw hefyd yn datblygu cynllun strategol am dlodi mislif, yn cynnal adolygiad i anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn pensiwn cyflogaeth a chynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus dros y tair blynedd nesaf.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y gwaith hwn yn effeithio ar amryw o feysydd polisi, gan gynnwys iechyd, addysg a thlodi.

‘Angen i ni weithredu ar fyrder’

“Rydyn ni’n benderfynol o roi sylw i’r anghydraddoldebau hyn yn unol ag argymhellion yr Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau,” meddai Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar Fawrth 8 wedi tynnu sylw unwaith eto at yr angen i ni weithredu ar fyrder i sicrhau cydraddoldeb i fenywod ar draws pob maes polisi sy’n gyfrifoldeb i ni.

“Rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru’n benderfynol o wynebu’r her hon, ac y bydd yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau cydraddoldeb i bawb.”