Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gabinet Cyngor Gwynedd i atal penderfyniad ar ddyfodol addysg ôl-16 yn Arfon, a dysgu gwersi gan Gyngor Sir Ceredigion.

Bydd y Cabinet yn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 10) i lansio ymgynghoriad.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Cabinet i atal y penderfyniad ac yn gofyn i’r Cyngor ddechrau paratoi cynlluniau i gyflwyno e-ysgolion yng Ngwynedd fel y mae Cyngor Ceredigion wedi ei wneud.

Daw’r alwad ar ôl i’r Gymdeithas ddatgelu bod yr Adran Addysg wedi bod yn ystyried cau pob sefydliad Chweched Dosbarth yn Arfon – rhywbeth, yn ôl y Gymdeithas, fydd yn effeithio cannoedd o bobl ifanc rhwng 16 a 18.

Mae’r Gymdeithas hefyd wedi mynegi pryder am yr effaith posib ar yr iaith o gau’r chweched dosbarth mewn cymunedau fel Penygroes, Bethesda a Llanrug.

Maen nhw hefyd yn poeni am effaith amgylcheddol pobol ifanc yn teithio’n bell i dderbyn eu haddysg ôl-16, a thorri’r cyswllt rhwng pobol ifanc a’u cymunedau.

Angen i Wynedd ddysgu o lwyddiant Ceredigion

Yr wythnos ddiwethaf, adroddodd Ceredigion ar y camau llwyddiannus iawn i ehangu’r dewis o bynciau trwy ddarparu gwersi drwy’r fideo a’r wê.

“Ar amser pan mae Cyngor Gwynedd yn cwyno am ddiffyg arian a thorri gwasanaethau, mae’n anghyfrifol iawn ystyried gwastraffu arian ar ymgynghoriad,” meddai Angharad Tomos, llefarydd ar ran Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r ateb dan eu trwyn, yn y sir drws nesaf.”