Mae rhannau o Gymru wedi cael eu taro gan ragor o law trwm, ychydig wythnosau’n unig ar ôl i Storm Dennis achosi difrod aruthrol – ac mae mwy o law ar y ffordd.
Mae rhybudd oren mewn grym i rannau o’r canolbarth a’r gogledd-orllewin, gyda llifogydd cyflym a dwfn yn achosi “perygl i fywyd”.
Mae disgwyl i ardaloedd megis Llanfair-ym-muallt a’r Drenewydd, sydd eisoes wedi eu difrodi gan lifogydd, gael eu heffeithio’n waeth, gyda pherygl o ddifrod i dai a busnesau.
Gwelodd Pantmawr 23.8mm o law mewn oddeutu pedair neu bum awr brynhawn dydd Llun (Mawrth 9) ac mae rhai ardaloedd ar dir uwch yn disgwyl gweld hyd ar 100mm o law.
Mae’r rhybudd oren mewn grym tan 10yb ddydd Mawrth (Mawrth 10), ac mae toriadau i gyflenwadau pŵer ac oedi i deithwyr yn debygol.
Mae rhybudd melyn, sydd radd yn is na rhybudd oren, mewn grym mewn ardaloedd ar hyd a lled y wlad tan 12 o’r gloch canol dydd ar ddydd Mawrth (Mawrth 10).