Mae dyn wedi cael ei arestio  ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus yn dilyn marwolaeth dyn 21 oed mewn gwrthdrawiad yn Nhredegar yng Ngwent yn oriau man fore Sul, (Mawrth 8).

Roedd dau berson yn y car Volkswagen gwyn pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd y Cymoedd ger Tredegar. Bu farw Dylan Sullivan, a oedd yn dod o ardal Brynmawr, yn y fan a’r lle.

Mewn datganiad, meddai Heddlu Gwent: “Mae dyn, 22, o ardal y  Blaenau wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus. Mae wedi ei ryddhau tra bod yr heddlu’n ymchwilio.”

“Mab anhygoel”

Mewn datganiad dywedodd teulu Dylan Sullivan ei fod yn “fab anhygoel, brawd cariadus, ac ewythr gofalus, aelod balch o’r teulu ac yn ffrind gwych.”

“Mae ein calonnau wedi torri a fydd ein bywydau byth yr un fath heb ein bachgen a’i lygaid glas.”

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.