Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn euog o dorri saith o Safonau’r Gymraeg wrth gynnig cau ysgol gynradd Gymraeg yn yr ardal.

Cynhaliodd Aled Roberts ymchwiliad yn dilyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd nad oedd ymgynghoriad priodol wedi’i gynnal cyn cau Ysgol Gynradd Felindre, ac nad oedd ystyriaeth wedi bod i effaith newid eu polisi ar y Gymraeg.

Roedd chwech o’r safonau a gafodd eu torri’n ymwneud â phenderfyniadau polisi, lle mae angen i sefydliadau ystyried yr effaith ar y Gymraeg wrth newid polisi.

Yn ôl y Comisiynydd, doedd y cyngor ddim wedi ystyried effaith y polisi newydd ar y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, nac wedi ystyried na cheisio barn am yr effaith yn y ddogfen ymgynghori.

Doedden nhw ddim ychwaith wedi ystyried a fyddai’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, a doedd dim digon o ystyriaeth i hynny yn y ddogfen ymgynghori.

Yn ôl y Comisiynydd, dyw’r dyfarniad ddim yn effeithio ar y penderfyniad blaenorol i gau’r ysgol.

Eglurhad

“Cyflwynwyd cwyn yn gofyn i ni ymchwilio i’r honiad fod y Cyngor wedi torri safonau,” meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.

“Yn dilyn yr ymchwiliad, rwyf bellach wedi dod i’r casgliad fod saith o safonau wedi eu torri.

“Rwyf wedi gosod camau gorfodi ar y cyngor, fydd yn golygu y bydd ganddynt broses gadarn yn y dyfodol i ystyried effaith penderfyniadau ar y Gymraeg.

“Maent yn cynnwys pwyntiau megis addasu eu dogfennau ymgynghori a chreu canllaw cadarn i swyddogion, i gynnig arweiniad ar asesu effaith.

“Fydd y dyfarniad hwn ddim yn newid y penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre.

“Ond bydd yn sicrhau bod ystyriaeth lawn ac ymgynghori digonol yn y dyfodol gydag unrhyw benderfyniad polisi, a’i effaith ar y Gymraeg.”