Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n symud ymlaen gyda chynllun i uno tri phrif gorff amgylcheddol Cymru.

Fe fyddai hynny’n golygu creu un corff yn lle Asiantaeth yr Amgylchedd, y Cyngor Cefn Gwlad a’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru.

Fe ddaeth yr un o gam yn nes yr wythnos yma ar ôl i newidiadau i’r Mesur Cyrff Cyhoeddus gael eu derbyn gan Dŷ’r Cyffredin – mae’r rheiny’n rhoi’r grym cyfreithiol i’r Llywodraeth weithredu.

Newidiadau

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd hi’n bosib i Lywodraeth Cymru drosglwyddo pwerau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli o un corff i un arall, neu greu corff cwbl newydd.

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn ystyried uno’r tri chorff ers peth amser, “er mwyn sicrhau darpariaeth effeithlon o ddull newydd Llywodraeth Cymru o reoli’r amgylchedd naturiol”.

Mewn datganiad, dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw nawr yn “gweithio’n agos gyda Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefngwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a’r undebau llafur priodol, ac fe fyddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach yn hwyrach eleni”.

“Nid ystyriaethau ariannol yw unig ysgogiad yr uno posib,” meddai’r llefarydd, “ond cyfle i ddelio â materion amgylcheddol mewn ffordd fwy cyfannol a holistig.”