Bu farw’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Matthew J Watkins yn 41 oed ar ôl gwaeledd hir.

Roedd wedi ennill 18 cap i Gymru rhwng 2003 a 2006, ac wedi bod yn dioddef o ffurf prin o ganser y pelfis ers 2013.

Fe fydd chwaraewyr Cymru’n gwisgo band du am eu breichiau yn y gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham y pnawn yma er cof amdano.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru mewn teyrnged iddo ar Twitter:

“Rydym wedi tristáu’n arw gan y newyddion fod y cyn chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, Matthew J Watkins, wedi’n gadael.

“Bydd y garfan heddiw’n gwisgo band du am eu breichiau i ddangos eu parch. Cydymdeimlwn â theulu a ffrindiau MJ. Cysga’n dawel MJ.”