Bydd cau bwlch cyllidol Cymru yn her enfawr, beth bynnag yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r adroddiad, gan academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn asesu sefyllfa gyllidol bresennol Cymru yn y Deyrnas Unedig, ac yn ystyried rhai o’r goblygiadau cyllidol pe bai Cymru’n annibynnol.
Daw i’r casgliad y byddai cau’r bwlch yn anodd dros ben, ta waeth am sefyllfa gyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol.
“Ar hyn o bryd, mae bwlch o tua £4,300 y person rhwng gwariant Cymru a’i refeniw ar y cyfan, sy’n sylweddol o fwy na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, sef £620,” meddai’r ymchwilydd Guto Ifan.
“Nid yw Cymru’n unigryw o bell ffordd: gwladwriaeth hynod anghytbwys yw’r Deyrnas Unedig, lle mae gan 9 o’r 12 cenedl a rhanbarth ddiffyg cyllidol a ariennir gan ‘drosglwyddiadau cyllidol’ gan y tri rhanbarth arall.”
Gwario llai mewn Cymru annibynnol
Mae’r adroddiad yn cwestiynu a fydd problemau economaidd, cyllidol a chymdeithasol Cymru’n gwella wrth aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.
Ond mae hefyd yn dadlau y byddai angen cynyddu trethi neu leihau cyllidebau’n sylweddol mewn Cymru annibynnol, gyda lefelau is o dreulio nwyddau a gwasanaethau yn yr economi, yn y tymor byr i ganolig o leiaf.
Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried nifer o gynigion y mae cefnogwyr annibyniaeth wedi’u codi ers i Ganolfan Llywodraethiant Cymru gyhoeddi Gwariant a Refeniw Llywodraethol Cymru yn 2016 a 2019, gan gynnwys gwariant ar amddiffyn cenedlaethol, dyled y llywodraeth, pensiynau a pholisïau ariannol a chyllidol posibl Cymru annibynnol.
Hyd yn oed o dan dybiaethau hael iawn ynghylch trefniadau ôl-annibyniaeth, mae bwlch cyllidol Cymru’n parhau i fod yn sylweddol.