Mae Prif Hyfforddwr Cymru yn addo bod yna “berfformiad mawr y dod” gan ei chwaraewyr wrth i Gymru baratoi i herio’r Hen Elyn yn Nhwickenham ddydd Sadwrn (Mawrth 7).

Mae gobeithion Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni wedi hen ddiflannu wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Iwerddon a Ffrainc.

Dyw Cymru heb golli tair gêm yn olynol ers 2007, ond mae hi’n wyth mlynedd ers i’r tîm drechu Lloegr yn Nhwickenham yn y Chwe Gwlad.

Ond mae’r Prif Hyfforddwr yn teimlo’n hyderus.

“Does dim ond rhai i chi wrando ar Alun Wyn Jones yn ystod yr wythnos,” meddai Wayne Pivac.

“Mae’r angerdd yno yn ei lais a phopeth mae o wedi ei wneud wrth ymarfer, mae o wedi arwain o’r ffrynt.

“Does neb wedi dal yn ôl ac mae hynny yn dweud wrtha i fod yna berfformiad mawr yn dod.

“Gyda fy nghefndir o ddod o Seland Newydd, rydym ni’n gweld Lloegr fel mae’r Cymry’n eu gweld.”

Pedwar newid

Mae Wayne Pivac wedi newid pedwar o’r tîm gafodd eu trechu gan Ffrainc bythefnos yn ôl, gyda Liam Williams yn dychwelyd i’r tîm ar ôl gwella o anaf i’w ffêr.

Bydd yn cymryd lle Josh Adams ar yr asgell, wedi iddo yntau anafu ei ffêr yn erbyn Ffrainc.

Y tri newid arall i’r tîm yw Tomos Williams, Josh Navidi a Rob Evans yn lle Gareth Davies, Taulupe Faletau ac Wyn Jones.

Mae dewis Josh Navidi o flaen Taulupe Faletau wedi synnu rhai, gyda chwaraewr Gleision Caerdydd yn dychwelyd o anaf i chwarae ei gêm gyntaf ers mis Ionawr.

“Mae Josh Navidi yn chwaraewr penigamp dros y bêl,” meddai Wayne Pivac.

“Y gwaith mae o’n ei wneud yn y ryc, ei waith amddiffynnol ac wrth gario’r bêl.

“Mae o’n gymeriad caled ac yn rhywun sy’n rhoi lot o bwysau ar y gwrthwynebwyr.”